![]() |
![]() |
![]() |
||
3 Mawrth 2025
Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau
Annwyl Aelodau,
Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (“y Pwyllgor”) wrthi’n cynnal ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac ystyriaeth o’r ffyrdd y mae seneddau eraill yn y DU yn rheoli eu cofrestrau nhw, a sut mae’r Senedd yn cymharu ag arfer gorau mewn mannau eraill, mae’r Pwyllgor yn cynnig nifer o newidiadau i’r gofyniad cofrestru ar gyfer y Seithfed Senedd.
Byddai'r Pwyllgor yn croesawu safbwyntiau’r Aelodau ar y cynigion y mae'n eu hystyried, a restrir isod. Mae'r cyfeiriadau at baragraffau’n dynodi lle y gellir dod o hyd i'r wybodaeth ategol berthnasol yn y papur ategol, sydd wedi'i atodi i'r llythyr hwn.
1. Tâl - Cyfuno categorïau 1, 2, 3 a 5 yn un categori eang i gynnwys pob math o gyflogaeth Aelodau am dâl, tra'n cadw lefel bresennol y wybodaeth sydd ei hangen. (paragraffau 10-29)
2. Ychwanegu darpariaeth at Reol Sefydlog 4 fel bod modd cofnodi’r amser ar gyfer gweithgaredd cofrestradwy untro, drwy ddarparu’r amser a dreulir ar y gweithgaredd penodol hwnnw. (paragraffau 10-30)
3. Diwygio'r Rheolau Sefydlog a'r canllawiau i'w gwneud yn ofynnol i Aelodau gofrestru swm y tâl a dderbynnir am bob gweithgaredd cofrestradwy. (paragraffau 10-31)
4. Rhoddion, lletygarwch ac ati – Ystyried a yw’r trothwy ar gyfer cofrestru rhoddion a lletygarwch yn rhy uchel, o ystyried nad yw’n dal sawl math cyffredin o roddion a lletygarwch a’i fod ymhlith yr uchaf yn seneddau’r DU, ac a ddylid gosod trothwy is. (paragraffau 32–43)
5. Newid y rheolau i gysoni’r Senedd â seneddau eraill, drwy ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddarparu gwerth neu amcangyfrif o werth ar gyfer rhoddion a dderbyniwyd. (paragraffau 32-44)
6. Ymweliadau tramor - Newid y rheolau i ddod â’r Senedd yn unol â seneddau eraill, drwy ei gwneud yn ofynnol i’r Aelodau ddarparu gwerth neu werth amcangyfrifedig ar gyfer unrhyw ymweliadau tramor. (paragraffau 49-60)
7. Cynnig bod 'ymweliadau y telir amdanynt yn gyfan gwbl gan un o sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd neu gan un o grwpiau gwleidyddol Senedd Ewrop' yn cael eu dileu o’r rhestr o eithriadau ar gyfer cofrestru ymweliadau tramor, yng ngoleuni ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. (paragraffau 61-62)
8. Tir ac eiddo - Newid y rheolau fel bod angen i’r Aelodau bennu a yw eiddo yn cael ei gofrestru oherwydd ei werth, yr incwm sy’n deillio ohono, neu’r ddau. (paragraffau 63-76)
9. Pennu y dylai Aelodau nodi a ydynt yn landlordiaid cofrestredig gyda Rhentu Doeth Cymru. (paragraffau 63-77)
10. Cyfranddaliadau – Cyhoeddi gwybodaeth ynghylch pa gategori (gwerth absoliwt neu ganran o'r cyfanswm) y mae cyfranddaliadau yn dod o dano (paragraffau 78-86)
11. Aelodaeth/cadeiryddiaeth cyrff sy’n derbyn cyllid gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru - Diwygio teitl y categori hwn i adlewyrchu'n well yr hyn sydd angen ei gofrestru. (paragraffau 87-90)
12. Cyflogi Aelodau Teulu - Dileu’r cyfeiriad at gyflogi aelodau o deulu Aelod ei hun. (paragraffau 91-99)
13. Naill ai dileu’r gofyniad o dan Reol Sefydlog 3 i roi enw’r aelod o’r teulu sy’n gyflogedig, neu gadw’r gofyniad hwnnw ond diwygio’r Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r enw beidio â chael ei gyhoeddi ar gais yr Aelod. (paragraffau 91-100)
14. Cyffredinol - Cyhoeddi’r dyddiad y caiff cofnod ei gofrestru neu ei ddiwygio. (paragraffau 106-118)
15. Ei gwneud yn ofynnol i Aelodau roi’r dyddiad y digwyddodd newid, a fydd hefyd yn cael ei gyhoeddi. (paragraffau 106-119)
16. Cyflwyno categori ‘gwirfoddol’ newydd at ddiben galluogi Aelodau i gofnodi unrhyw fuddiannau ariannol neu fuddiannau eraill y maent am iddynt fod yn gyhoeddus, ond nad ydynt yn dod o dan unrhyw un o’r categorïau gorfodol o dan Reol Sefydlog 2. (paragraffau 120-127)
17. Newid y cyfnod cofrestru cychwynnol yn y Senedd i bedair wythnos, er mwyn sicrhau cysondeb â’r gofyniad am ddiweddariadau yn ystod Senedd. (paragraffau 128-130)
18. Gosod y trothwyon yn rheolau’r Senedd ar ddechrau Senedd, er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i’r Aelodau am y trothwyon sy’n gymwys drwy gydol cyfnod Senedd (paragraffau 131-133)
Byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael ymatebion erbyn 28 Mawrth 2025. Mae croeso i chi hefyd drafod y materion hyn â mi neu aelodau eraill o'r Pwyllgor.
Yn gywir,

Hannah Blythyn AS
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.